Cadwch y dyddiad yn rhydd: Bydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal ar Nos Wener, 23ain Fawrth 2018.



Ein Gwobrau

Gwobrau Adnoddau Dynol Cymru yw'r unig ddigwyddiad blynyddol sy'n cydnabod ac yn dathlu rhagoriaeth ym maes adnoddau dynol yng Nghymru, ac mewn ystod eang o sectorau.

23 MAWRTH 2017 | STADIWM SWALEC, CAERDYDD


Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni a chinio tei du, o dan arweiniad Sian Lloyd o'r BBC, a bydd adloniant gan gôr swynol Only Boys Aloud choir ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau i’r holl gategorïau yw 31 Ionawr 2017.



Hosted by – Sian Lloyd



Mae Sian Lloyd yn gyflwynydd teledu cenedlaethol.

Mae Sian yn  cyflwyno BBC Breakfast (BBC One), y slot newyddion ar Marr (BBC One) ac yn ohebydd ar gyfer newyddion rhwydwaith y BBC.

Mae hi  hefyd yn gweithio ar draws genres eraill. Dros y tair blynedd diwethaf,  mae Sian wedi  cyflwyno Crimewatch Roadshow,  ac y llynedd cynhyrchwyd  Sian dwy raglen ddogfen ar gyfer BBC Cymru.

Dechreuodd Siân Lloyd ei yrfa fel newyddiadurwraig yng Nghymru,  yn cyflwyno BBC Wales Today, yn ogystal a Good Evening Wales ar BBC Radio Wales.

Mae Sian dal i fod  yn gweithio'n rheolaidd yn y byd  radio, ar gyfer raglenni PM a Today a Radio 4.

Magwyd Sian yn Wrecsam yng ngogledd Cymru ac mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Cyn fod yn newyddiadurwraig,  hyfforddodd Sian fel cyfreithwraig yn gweithio yn Llundain a Hong Kong.

Mae Sian  wedi cadeirio nifer o ddigwyddiadau ar draws Cymru ac ymhellach i ffwrdd. Mae hi’n ddewis poblogaidd a phrofiadol i gynnal seremonïau gwobrwyo.



Siaradwr Gwadd – Yr Arglwydd Price



Rydym yn falch o groesawu Yr Arglwydd Price, Gweinidog Gwladol yn Adran Masnach Rhyngwladol i siarad yn Ngwobrau Adnoddau Dynol cyntaf Cymru.

Bu Yr Arglwydd Price gynt yn Reolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Waitrose, ac hefyd yn Ddiprwy Gadeirydd Partneriaeth John Lewis, a bydd yn rhannu dros 30 mlynedd o brofiad o reoli pobl a chwmniau uchel eu proffeil.

Ac yntau newydd orffen ysgrifennu llyfr o’r enw “Fairness for all”, sydd yn cynnwys Chwe Cham ar gyfer Gweithle Hapus, ac sydd yn rhannu’r manteision o fod a gweithlu ymroddedig, bydd y cyfle i glywed am ei weledigaeth o ran byd Adnoddau Dynol yn un amrhisiadwy ar gyfer gweithwyr AD Proffesiynol.

Cefndir

Ymunodd yr Arglwydd Price â Phartneriaeth John Lewis yn 1982 mewn safle dan hyfforddiant ar gyfer graddedigion. Bu iddo ddal nifer o swyddi cyn dod yn Reolwr Gyfarwyddwr (RhG) Waitrose yn Ebrill 2007. Cyn hyn, yn 2005, bu iddo ymuno a Bwrdd y Bartneriaeth, gan gymryd cyfrifoldeb ar gyfer datblygu busnes newydd, strategaeth a TG fel Cyfarwyddwr Datblygu. Yn Awst 2013, ynghyd â’i rôl fel RhG Waitrose, cafodd ei wneud yn ddirprwy Gadeirydd Partneriaeth John Lewis.

Bu yr Arglwydd Price yn Gadeirydd Busnes yn y Gymuned o 2011 hyd 2015, ac mae hefyd wedi dal swydd fel Dirprwy Gadeirydd Sianel 4, a Chadeirydd Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog, ac fel Aelod Anweithredol o fwrdd Swyddfa’r Cabinet.

Cafodd ei apwyntio yn Gadlywydd o’r “Royal Victorian Order” yn anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2014